Bydd Clwb Artistiaid Ifanc Oriel Myrddin yn ymweld ag Oriel a Stiwdio Elysium ym mis Chwefror i brofi’r hud sydd i’w gael ble mae artistiaid wrth eu gwaith. Menter gymdeithasol nid er elw a gaiff ei harwain gan artistiaid yw Oriel Elysium, sydd ag 83 o fannau stiwdio ac oriel gelf gyfoes dros 3 lleoliad yn Abertawe. Sefydlwyd Oriel Elysium yn 2007 ac mae’n cynnig profiad o gydweithio a chyfranogi a hynny yng nghanol y gymuned greadigol fywiog yn Abertawe.
Bydd y Clwb Artistiaid Ifanc yn ymweld â’r oriel a’r stiwdios ac yn cael cyfle i weithio gyda’r arlunydd Kate Bell sydd â stiwdio yn adeilad Elysium yn Stryd y Berllan. Yn ystod y tymor hwn maent wedi bod yn archwilio haenau a gweadeddau a byddant yn gweithio gyda Kate er mwyn archwilio technegau sy’n defnyddio cwyr a phaent.
Ysbrydolwyd y daith gan yr arddangosfa gyfredol Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes. Roedd Roger Cecil yn adnabyddus am y stiwdio hardd a chyfareddol y gweithiai ynddi yn ei gartref. Gellir gweld lluniau o’r stiwdio yn y llyfr Roger Cecil Secret Artist gan Peter Wakelin sydd ar werth yn ein siop ar hyn o bryd.