Mae’r arddangosfa hon o ffotograffau gan Heather Birnie yn cofnodi prosiect ymgysylltu â natur Oriel Myrddin. Cynhaliwyd y prosiect hwn gyda phobl hŷn, ac fe’i hariannwyd gan Ŵyl y Gwanwyn Age Cymru.
Cafodd y grŵp o bobl hŷn, sy’n denantiaid yng nghynllun gofal ychwanegol Cartref Cynnes yn Nhre Ioan, ei arwain gan Emily Laurens, Cydgysylltydd Celf Gymunedol Oriel Myrddin, drwy gyfres o ymarferion yn annog ymgysylltu synhwyraidd â’r byd o’u hamgylch. Cafodd y gwaith ei lywio gan Sharing Nature Joseph Cornell ac artistiaid tirwedd fel Andy Goldsworthy.
Mae cryn dipyn o dystiolaeth sy’n dangos wrth i bobl fynd yn hŷn, mae’r amser maent yn ei dreulio ym myd natur yn lleihau. Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser ym myd natur yn cael nifer o effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant. Canfu adroddiad yn 2018 gan Brifysgol East Anglia fod treulio amser mewn mannau gwyrdd yn lleihau’r risg o ddiabetes, clefyd cardiofasgwlaidd, straen, a phwysedd gwaed uchel.
Ysbrydolwyd y prosiect hwn gan waith a ddangosir yn Oriel Myrddin gan y ddau artist Forest + Found. Mae eu gwaith yn rhoi sylw i draddodiadau crefft a thirwedd a gellir eu gweld yn Oriel Myrddin hyd at 6 Gorffennaf.
Mae Elder Trees // Coed Hynaf wedi cael ei ariannu gan Ŵyl y Gwanwyn Age Cymru. Gŵyl genedlaethol mis o hyd yw Gwanwyn sy’n cael ei chynnal ar draws Cymru ym mis Mai bob blwyddyn, gan ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn. Nod yr ŵyl yw cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gyfrannu mwy at fyd y celfyddydau.
“One touch of nature makes the whole world kin” Shakespeare
Bydd yr arddangosfa yn The Warren yn rhedeg o 25 Mai hyd at 23 Mehefin 2019
Yn Bwyty Warren bar a Cafe, 11 Mansel Street, Caerfyrddin, SA311PX
Oriau Agor:
Maw: 9am – 4pm
Mer: 9am – 4pm
Iau: 9am – 10pm
Gwen: 9am – 10pm
Sad: 9am – 10pm
Sul: 9am – 4pm
Llun: Heather Birnie – heatherbirnie.com
Gadael Ymateb